Skip to main content

Rydyn ni wrthi'n cymryd camau i helpu gyda chostau byw.

Dyma ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ichi.

Rooftops of homes and the words in welsh: 'Helping to Make Every Day Easier' / 'Helpu i wneud pob dydd yn haws'

Rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd ledled y wlad yn teimlo effaith costau byw: dyma’r prif fater sy’n effeithio ar bobl sy’n gweithio.

Dyna pam rydyn ni’n cymryd camau i leihau costau bob dydd, boed drwy rewi prisiau trenau a thaliadau presgripsiwn neu drwy gynyddu cyflogau a gostwng biliau ynni. Rydyn ni’n cymryd camau ymarferol i helpu i wneud pob dydd yn haws.

Gwneud pob dydd yn haws

Gwyliwch sut mae Irisha wedi elwa o gymorth y llywodraeth gyda chostau byw.

Trawsgrifiad fideo

Y cymorth rydyn ni’n ei roi

Hwb i gyflogau miliynau o weithwyr

Bydd 2.7 miliwn o weithwyr yn cael codiad cyflog o 4% o fis Ebrill ymlaen. Bydd gweithwyr amser-llawn ar y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gweld cynnydd o £900 y flwyddyn, tra bydd gweithwyr amser-llawn ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i bobl ifanc 18-20 yn gweld cynnydd o £1,500.

Gwiriwch y cyfraddau sy'n gymwys i chi

Cap prisiau ynni wedi’i ostwng £117

Erbyn hyn, mae’r rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi cadarnhau y bydd gostyngiad o 7% yn y cap prisiau ynni ar gyfer mis Ebrill, sef y cap sy’n cyfyngu ar y swm y mae cwsmeriaid ar dariffau amrywiol safonol yn ei dalu am bob uned o nwy a thrydan.

Rhagor o wybodaeth am newidiadau yn y cap prisiau

Ariannu 30 awr o ofal plant

Gall rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phant rhwng 9 mis ac oedran ysgol yn Lloegr gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu gan y llywodraeth am 38 wythnos o’r flwyddyn, gan arbed £8,000 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Rhagor o wybodaeth am y cymorth gofal plant sydd ar gael

Ymestyn Prydau Ysgol am Ddim

Mae ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn yn Lloegr mewn aelwydydd sydd ar Gredyd Cynhwysol yn rhoi £500 yn ôl ym mhoced teuluoedd mwy na hanner miliwn o blant.

Gwnewch gais am brydau ysgol am ddim

Dileu’r terfyn dau blentyn

Bydd y terfyn dau blentyn ar Gredyd Cynhwysol yn cael ei ddileu o fis Ebrill ymlaen, gan godi amcangyfrif o 450,000 o blant allan o dlodi a sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Rhagor o wybodaeth

Cap o £3 ar docynnau bws

Rydyn ni’n ymestyn y cap o £3 ar docynnau bws yn Lloegr tan fis Ebrill 2027.

Gwiriwch y llwybrau sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun

Rhewi prisiau trenau

Rydyn ni wedi rhewi tocynnau trenau yn 2026 yn Lloegr, gan arbed £315 y flwyddyn i’r cymudwr cyffredin.

Rhagor o wybodaeth am rewi prisiau trenau

Torri treth tanwydd

Rydyn ni’n ymestyn y toriad treth tanwydd o 5c tan fis Medi 2026, yn canslo’r cynnydd chwyddiant arfaethedig ar gyfer 2026-27, ac yn cyflwyno Fuel Finder i ysgogi cystadleuaeth prisiau, gan arbed £89 i’r teulu cyffredin eleni.

Gwiriwch gyfraddau treth tanwydd

Taliadau Tywydd Oer

Bydd Taliadau Tywydd Oer yn dychwelyd y gaeaf hwn. Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu Gymorth ar gyfer Llog Morgais, gallech gael £25 yn awtomatig am bob cyfnod o 7 diwrnod pan fo’r tymheredd yn eich ardal yn gostwng i sero gradd Celsius neu’n is, rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2027.

Rhagor o wybodaeth am Daliadau Tywydd Oer a gwirio’ch cymhwystra chi i’w cael

Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 28 Mehefin 1960, fe allech chi gael hyd at £300 i helpu gyda’ch biliau gwres y gaeaf hwn rhwng 2026 a 2027 — ac mae’r rhan fwyaf o bobl gymwys yn ei gael yn awtomatig, heb fod angen gwneud cais.

Rhagor o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf

Absenoldeb Rhiant

Mae gan rieni a gofalwyr hawl i gael 18 wythnos o absenoldeb di-dâl i ofalu am lesiant eu plentyn neu i helpu gyda threfniadau gofal.

Gwiriwch eich hawl i gael Absenoldeb Rhieni Di-dâl